Casgliadau biniau
Mae Bodgeham-on-Wye yn ymfalchïo yn ei addewid o ymrwymiad i ymarfer polisi rheoli ar gyfer trin, didoli ac ailgylchu gwastraff yn gyfrifol.
I’r perwyl hwnnw, mae’n darparu nifer o gynwysyddion gwastraff i drigolion, er mwyn iddynt ddidoli eu gwastraff gartref, a chyfrannu at gynnal yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Biniau a mathau o wastraff
Dylai trigolion ofalu eu bod yn rhoi’r gwastraff dynodedig yn unig yn y biniau dynodedig. Gall methu â didoli gwastraff yn iawn gael canlyniadau difrifol. Ni allwn fforddio ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol.
| Cynhwysydd gwastraff | Math o wastraff |
|---|---|
| Bin olwynion glas | cynhyrchion papur heb eu baeddu |
| Bin olwynion porffor | gwastraff gwyrdd |
| Cynhwysydd gwyrdd | plastigau caled |
| Bin olwynion magenta | batris |
| Gwag yn agor | gobeithion a breuddwydion |
| Bin olwynion du | gwastraff cartref |
Amserlen gasglu
| Cynhwysydd gwastraff | Diwrnod |
|---|---|
| Bin olwynion glas | Bob yn ail ddydd Llun |
| Cynhwysydd gwyrdd | Dyddiau Mercher y mae eu diwrnod a’u mis yn cyfateb i rif cysefin |
| Cynwysyddion â gwerthoedd R amlwg | Bob trydydd dydd Gwener, ac eithrio yn ystod tymor y gwenwyn |
| Bin olwynion du | Dyddiau casglu wedi’u cyhoeddi ar Facebook |
Diweddarwyd diwethaf: